SL(6)417 – Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023

Cefndir a diben

Mae Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru (SASW) yn pennu’r gofynion y mae rhaid eu bodloni er mwyn i fframweithiau prentisiaethau Cymreig cydnabyddedig gael eu dyroddi. Mae’r Gorchymyn hwn yn addasu’r SASW. Mae’r newidiadau yn cynnwys, yn gryno:

§  ehangu cyfranogiad ymhlith prentisiaid ag anawsterau dysgu ac anableddau dysgu drwy gynnig hyblygrwydd o ran gofynion sgiliau hanfodol;

 

§  caniatáu cymwysterau procsi ychwanegol fel dewis arall cydnabyddedig yn lle sgiliau hanfodol,

 

§  gan gynnwys adran newydd ar brentisiaethau gradd a phroffesiynol, sy’n dileu’r gofynion o ran sgiliau hanfodol ar gyfer prentisiaethau ar y lefel hon.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Gorchymyn o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 13 o bwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae’r Gorchymyn yn methu diffinio dogfen y SASW yn gywir. Nid oes cyfeiriad at y cyhoeddwr, y dyddiad y cafodd ei chyhoeddi na’r rhif ISBN ac nid oes hyperlinc i’r ddogfen. Mae hyn yn wahanol i’r dull clir a gymerwyd gan Lywodraeth y DU mewn Gorchymyn cyfatebol a addasodd y Fanyleb Safonau Prentisiaethau yn Lloegr yn 2018:

https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2018/946/article/2/made

Pan fydd deddfwriaeth yn cyfeirio at ddogfennau, mae’n bwysig bod darllenwyr yn gwybod yn union pa ddogfen y cyfeirir ati a ble y gallant ddod o hyd iddi.

2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Nid yw’n glir beth yw statws fersiwn Gymraeg y SASW. Mae’r fersiwn Gymraeg o’r Gorchymyn yn addasu’r fersiwn Gymraeg o’r SASW. Rydym yn cymryd y bwriedir i’r addasiadau hyn gael effaith gyfreithiol.

Fodd bynnag, ni roddodd y fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r Gorchymyn a roddodd effaith i’r SASW gwreiddiol yn ôl yn 2013[1] effaith ond i “The Specification of Apprenticeship Standards for Wales (SASW)”, h.y. y fersiwn Saesneg o’r SASW.

Felly, nid yw’n glir pryd y cafodd y fersiwn Gymraeg o’r SASW effaith gyfreithiol a beth yw statws presennol y fersiwn Gymraeg.

Pan addaswyd y SASW ddiwethaf yn 2016,[2] fe’i haddaswyd yn Saesneg yn unig.

3. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn y fersiwn Gymraeg, mae dyddiad llofnod y Gweinidog yn Saesneg.

4. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Ym mharagraff 1 newydd o’r SASW, ymddengys fod gwall ar ddiwedd y frawddeg a ganlyn, gyda’n pwyslais ni wedi’i ychwanegu:

“Mae’n cynnwys adran newydd ar brentisiaethau gradd a phroffesiynol (lefelau 6 a 7), sy’n dileu’r gofynion o ran sgiliau hanfodol ar gyfer prentisiaethau ar y lefel hon”.

Drwy gyfeirio at “lefelau 6 a 7”, tybed a ddylai “ar y lefel hon” ddarllen “ar y lefelau hyn”, gan y byddai hyn yn arbed unrhyw ddryswch o ran yr hyn y mae “ar y lefel hon” yn ei olygu.

5. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae’r SASW bresennol yn cynnwys dwy golofn – colofn gyntaf sy’n cynnwys testun y gofyniad, ac ail golofn sy’n cynnwys cyfeiriad at yr adran berthnasol yn Neddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009; gweler y darn hwn o’r SASW bresennol er enghraifft:

6.  Rhaid i fframwaith fod yn 37 o gredydau o leiaf ond lle y bo’n briodol, gall fod yn fwy na hyn; mewn sawl achos bydd fframweithiau gryn dipyn yn fwy na 37 o gredydau. Ni ddylai fframwaith fod mor gul fel nad yw ond yn berthnasol i weithle penodol lle yr enillwyd y brentisiaeth.

Adran 31(2)(a)

 

Fodd bynnag, lle y mae’r Gorchymyn yn mewnosod paragraff newydd (megis paragraff 16A), dim ond y golofn gyntaf y mae’n mewnosod – nid oes ail golofn wedi’i mewnosod. Os nad oes adran berthnasol yn Neddf 2009 i gyfeirio ati, er eglurder, byddai’n dal yn ddefnyddiol cynnwys ail golofn i esbonio hynny.

Yn yr un modd, lle y mae’r Gorchymyn yn addasu paragraff sy’n bodoli eisoes (megis paragraff 6 uchod), nid yw’r Gorchymyn yn nodi mai dim ond i’r golofn gyntaf y mae’r addasiad. Fodd bynnag, rydym yn cymryd bod hynny’n wir ac nad yw’r ail golofn wedi’i haddasu.

6. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Ym mharagraff 10 newydd, mae’r cysylltair “a” yn cysylltu is-baragraffau (a), (b) ac (c) ar ôl is-baragraff (a) ac mae’r cysylltair “neu” yn eu cysylltu ar ôl is-baragraff (b). Fodd bynnag, mae’r canllawiau Drafftio Deddfau i Gymru yn rhybuddio rhag cymysgu cysyllteiriau gwahanol wrth gysylltu rhaniadau fel sydd wedi’i wneud yn yr is-baragraffau hyn. Mae hyn oherwydd ei bod yn arwain at amwysedd wrth ddehongli’r berthynas rhwng yr is-baragraffau.

7. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Ym mharagraff newydd 16A, yn y testun Cymraeg, mae’r geiriau “Essential Communication Skills and Essential Application of Number Skills” wedi’u cyfieithu’n wahanol ac yn anghyson yn y lle cyntaf y maent yn digwydd ar dudalen 6, ac yn yr ail le sy’n gywir.

Yn y lle cyntaf, maent wedi’u cyfieithu’n anghywir i olygu “Essential Communication and Application of Number Skills”.

8. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Rydym yn nodi’r anghysondebau a ganlyn mewn terminoleg.

·         Yn yr Atodlen, yn y testun Saesneg, mae’r ymadrodd “learning difficulty or disability” wedi’i ddefnyddio mewn sawl lle. Fodd bynnag, ym mharagraff newydd 16A, mae “learning difficulty or learning disability” wedi’i ddefnyddio. Hefyd, ym mharagraff 24 newydd, mae “learning difficulties or a learning disability” wedi’i ddefnyddio. Felly, mae amrywio yn y derminoleg sy’n creu ansicrwydd.

·         Ym mharagraff newydd 16A, yn y testun Cymraeg, yn y pumed paragraff, mae’r ymadrodd “learning difficulty or disability” wedi’i gyfieithu i olygu “learning difficulty or learning disability”, ac felly mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a Saesneg.

·         Yn nhestun Saesneg yr Atodlen, ceir cyfeiriad at “maths” a “mathematics”. Nid yw’n glir pam y mae’r ddau derm wedi’u defnyddio pan nad yw “maths” wedi’i ddefnyddio yn y SASW bresennol.

·         Mae ansicrwydd yn codi mewn cysylltiad ag enw un cymhwyster a restrir yn yr Atodlen. Yn benodol, ar dudalennau 12 a 18 o’r Gorchymyn, ceir cyfeiriad at “International Baccalaureate Diploma Standard or Higher Level Qualification in…Mathematical”. Nid ymddengys fod y defnydd o “Mathematical” ar y diwedd ar ei ben ei hun yn iawn.

·         Yn yr Atodlen, yn y testun Saesneg, mae’r term “proxies” wedi’i ddefnyddio ym mharagraff newydd 25A ac ym mharagraff 36 newydd. Fodd bynnag, mae “proxy qualifications” wedi’i ddefnyddio mewn lleoedd eraill yn yr Atodlen ac yn y SASW bresennol. Yn y testun Cymraeg, mae wedi’i gyfieithu i “cymwysterau procsi” drwy'r Atodlen a’r cyfieithiad presennol o’r SASW.  Felly, mae’r testun Saesneg yn anghyson wrth ddefnyddio’r term “proxies” mewn lleoedd.

 

·         Yn yr Atodlen, yn y testun Saesneg, mae’r acronym “IBO” wedi’i ddefnyddio yng ngholofn gyntaf y tablau mewn sawl lle mewn perthynas ag “IBO Middle Years Programme Level 1 / 2 Certificate”. Fodd bynnag, nid yw’r acronym hwnnw wedi’i ddefnyddio yn unrhyw le arall yn y tablau, lle y mae “International Baccaleureate” wedi’i ddefnyddio’n llawn. Yn ogystal, ymddengys fod gwefan y sefydliad yn defnyddio “IB” fel ei acronym. Yn y testun Cymraeg, mae enw llawn y Fagloriaeth Ryngwladol wedi’i ailadrodd ym mhob lle cyfatebol.

·         Ym mharagraff 35 newydd, ceir cyfeiriad at eithriadau “ar gyfer pobl”. Fodd bynnag, mae darpariaeth gyfochrog ym mharagraff 24 newydd yn cyfeirio at eithriadau “mewn cysylltiad â phrentisiaid”.

9. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae’r Gorchymyn yn rhoi paragraff 24 newydd yn lle’r paragraff 24 presennol. Fodd bynnag, ymddengys fod testun newydd paragraff 24 yn ymdrin â mater yr ymdrinnir ag ef ym mharagraff 25 presennol. Byddai hyn yn golygu y byddai gan y SASW fel y’i haddaswyd gan y Gorchymyn hwn ddau baragraff (h.y. paragraffau 24 a 25) sy’n ymdrin â’r un mater, ond mewn ffyrdd ychydig yn wahanol.

Byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru gadarnhau bod paragraff 24 newydd a pharagraffau newydd 25A a 25B wedi’u rhifo’n gywir ac y byddant yn cael eu mewnosod yn y SASW newydd fel y bwriadwyd.

10. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn y tabl newydd yn union ar ôl paragraffau newydd 25B a 36A, mae’r pennawd “Cymhwyster Saesneg” yn ymddangos uwchben y golofn gyntaf. Fodd bynnag, mae’r golofn honno’n cynnwys cymwysterau sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain. Nid yw’n glir pam y mae’r mathau hynny o gymwysterau wedi’u cynnwys o dan y pennawd “Cymhwyster Saesneg”.

 

11. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn y fersiwn Gymraeg o’r Atodlen, nid yw’r ymadrodd “Pre U” (yr ydym yn deall ei fod yn cyfeirio at gymhwyster cyn y brifysgol) wedi’i gyfieithu yn enw rhai cymwysterau. A wnaeth Llywodraeth Cymru ystyried rhoi cyfieithiad Cymraeg i’r ymadrodd?

12. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Ym mharagraff 35 newydd, mae gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg – mae’r testun Cymraeg yn cynnwys geiriau ychwanegol. O ganlyniad, mae “as outlined in paragraph 16A” wedi’i gyfieithu i olygu “as well as those qualifications outlined in paragraph 16A”.

13. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae paragraff 13 o’r Atodlen yn newid y “pennawd ym mharagraff 38”. Nid oes unrhyw benawdau “ym” mharagraff 38. Mae pennawd eang sy’n cwmpasu paragraffau 38 i 42 ac mae pennawd culach sy’n cwmpasu paragraffau 38 i 40. Rydym yn cymryd mai’r pennawd ehangach sydd wedi’i newid, ond dylai hyn fod wedi cael ei egluro yn y Gorchymyn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y 2 bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

14. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae paragraff newydd 16A o’r SASW yn cydnabod y gall prentisiaid ag anhawster dysgu neu anabledd dysgu wynebu rhwystrau i gyfranogiad mewn prentisiaethau. O ganlyniad, mae paragraff 16A yn caniatáu eithriadau mewn perthynas â gofynion sylfaenol penodol. O ran y gofynion sylfaenol ar gyfer Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, gellir addasu’r gofynion sylfaenol, ond dim ond pan fo amodau penodedig wedi’u bodloni (gweler y gofyniad am yr “holl” amodau ym mharagraff 16A sydd i’w bodloni).

O ystyried bod paragraff 16A yn darparu ar gyfer addasiadau rhesymol, byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru egluro’r berthynas rhwng paragraff 16A a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn llai rhagnodol o ran pryd y gellir gwneud addasiadau rhesymol.

15. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Rydym wedi nodi uchod rai o’r addasiadau y mae’r Gorchymyn hwn yn eu gwneud i’r SASW. Fodd bynnag, mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi nad oes unrhyw newid i bolisi ac nad oes unrhyw bolisïau newydd yn cael eu gweithredu.

Nodir ym mharagraff 5 o’r Memorandwm Esboniadol:

“Gan nad oes unrhyw newid i bolisi, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus. Unig bwrpas yr orchymyn[sic] yw galluogi i’r ddeddfwriaeth gyfredol gael ei diweddaru i gyflawni ymrwymiadau’r polisi prentisiaethau, lle mae ymgynghoriadau technegol a chyhoeddus wedi’u cynnal

Byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru egluro beth yw’r ymrwymiadau polisi hynny, a ble a phryd y cawsant eu nodi. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall safbwynt Llywodraeth Cymru nad yw’r Gorchymyn yn gweithredu polisi newydd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i bob un o’r pwyntiau adrodd.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

29 Tachwedd 2023

 

 



[1] Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) 2013

[2]Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2016